![]() | |
Enghraifft o: | ffilm ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1987, 10 Mawrth 1988 ![]() |
Genre | ffilm ryfel, ffilm glasoed, ffilm ddrama, ffilm a seiliwyd ar nofel ![]() |
Prif bwnc | Pacific War, awyrennu, yr Ail Ryfel Byd ![]() |
Lleoliad y gwaith | Shanghai ![]() |
Hyd | 154 munud, 152 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | Steven Spielberg ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Kathleen Kennedy, Frank Marshall, Steven Spielberg, Robert Shapiro ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Amblin Entertainment ![]() |
Cyfansoddwr | John Williams ![]() |
Dosbarthydd | Warner Bros., Netflix ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Sinematograffydd | Allen Daviau ![]() |
Ffilm ryfel Saesneg yw Empire of the Sun (1987). Cyfarwyddwyd gan gan Steven Spielberg, ac mae'n serennu Christian Bale, John Malkovich, a Miranda Richardson. Mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan J.G. Ballard a gyhoeddwyd yn 1984; addaswyd ar gyfer y sgrîn gan Tom Stoppard a Menno Meyjes. Adrodda Empire of the Sun hanes Jamie "Jim" Graham, sydd yn datlygu fel unigolyn o fyw gyda theulu Prydeinig cefnog yn Shanghai i fod yn garcharor rhyfel yng Nghanolfan Ymgynnull Sifiliaid Lungha, gwersyll Siapaneaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn wreiddiol roedd Harold Becker a David Lean i fod cyfarwyddo'r ffilm cyn i Spielberg gymryd yr awenau. Roedd gan Spielberg ddiddordeb mewn cyfarwyddo Empire of the Sun oherwydd ei gysylltiad personol i ffilmiau Lean ac i'r thema o'r Ail Ryfel Byd. Ystyria Spielberg y ffilm hon fel ei waith mwyaf dwys ar "golli diniweidrwydd". Deliai nofel Ballard gyda'r thema o ddewrder ond unwaith eto creodd Spielberg ffilm a oedd yn ymdrin â phlant yn cael eu gwahanu o'u rhieni. Fodd bynnag, nid oedd y ffilm yn llwyddiant enfawr yn y theatrau er iddi gael ei chanmol yn fawr gan y beirniaid.